Eglwys Gadeiriol Caerwynt
Math | cadeirlan Anglicanaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | y Drindod |
Ardal weinyddol | Caerwynt, Dinas Caerwynt |
Sefydlwyd | |
Nawddsant | Sant Pedr, yr Apostol Paul |
Daearyddiaeth | |
Sir | Hampshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.06072°N 1.31333°W |
Cod OS | SU4823229265 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | y Drindod |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Caerwynt |
Eglwys gadeiriol yn ninas Caerwynt, Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Mae'n un o'r eglwysi cadeiriol hynaf yn Lloegr, a godwyd gan y Normaniaid yn yr 11g ar safle eglwys Sacsonaidd gynharach. Mae'r gadeirlan yn sedd esgobion Caerwynt.
Dechreuwyd ar y gwaith o godi'r eglwys gadeiriol newydd yn 1079 ar safle'r hen eglwys a godwyd yn nheyrnasiad y brenin Alfred pan fu Caerwynt yn brifddinas teyrnas Lloegr. Ni chafodd ei chwblhau yn derfynol tan y flwyddyn 1404. Trwy gydol yr Oesoedd Canol bu'n ganolfan pererindod gyda phererinion yn galw yno i ymweld â Chreirfa Sant Swithin ar eu ffordd i Gaergaint.
Mae llyfrgell y gadeirlan yn cynnwys llawysgrif o Historia Beda a Beibl darluniedig gwerthfawr a adnabyddir fel 'Beibl Caerwynt'.